Swyddi Gwag ar gyfer Hyfforddeion
Cystadleuol
Mae Greenaway Scott yn chwilio'n gyson am aelodau newydd nesaf ein tîm i hyfforddi a chymhwyso i'r tîm yn Greenaway Scott!
Mae hyfforddeion yn Greenaway Scott uchelgeisiol, â gogwydd at fusnes ac â ffocws. Maent yn ffurfio rhan o'r tîm gweithredol o ddydd un ac mae disgwyliadau mewn perthynas â pherfformiad yn uchel! Wedi dweud hynny, pan fyddwch yn gymhwyso yn Greenaway Scott dylai'ch gallu fod yn llawer mwy nag NQ arferol.
Bydd hyfforddeion llwyddiannus yn ymgymryd â seddi yn ein timau Cyllid Corfforaethol, Masnachol ac IP, Cyflogaeth ac Eiddo Masnachol.
Bydd yr hyfforddai yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi lawn yn unol â chanllawiau'r SRA.
Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Un o'r ffyrdd mae Greenaway Scott yn ei wahaniaethu ei hun rhag ei gystadleuwyr yw bod rhaid i bob aelod o'r tîm Masnachol ac IP gael gradd gyntaf mewn pwnc gwyddoniaeth neu fathemateg.
Felly, rydym yn mynnu bod gan bob ymgeisydd sy'n gwneud cais am y swydd hon radd gwyddoniaeth neu fathemateg ochr yn ochr â'u cymwysterau cyfreithiol. Fe wnawn hyn er mwyn sicrhau bod ein cleientiaid a'n cynghorwyr i gyd yn siarad yr un iaith o ran eu busnes.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddal gradd 2:1 mewn disgyblaeth fathemateg, gwyddoniaeth neu dechnoleg a'u bod wedi cwblhau a phasio'r GDL.
Back to List